Cam-drin Domestig
Mathau o gam-drin domestig
Cam-drin emosiynol neu seicolegol
Beio, bychanu, codi cywilydd, gasleitio neu ddylanwadu’n ormodol ar rywun dro ar ôl tro i wneud iddyn nhw amau eu hunain neu gwestiynu eu realiti.
Ymddygiad sy'n rheoli neu'n gorfodi
Camau i gael pŵer neu reolaeth, fel dweud wrth rywun beth i'w wisgo, pwy maen nhw'n cael ei weld, cadw golwg ar ble maen nhw'n mynd neu eu hynysu oddi wrth ffrindiau a theulu.
Stelcio neu aflonyddu
Tracio, dilyn neu gysylltu â rhywun dro ar ôl tro – ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gall hyn gynnwys ymddangos yn rhywle heb wahoddiad neu anfon negeseuon neu anrhegion nad yw’r person arall eu heisiau.
Cam-drin economaidd
Rheoli mynediad rhywun at arian neu hanfodion, fel cymryd cyflog neu fudd-daliadau rhywun, eu gorfodi i fynd i ddyled, rheoli sut maen nhw’n gwario eu harian neu eu hatal rhag gweithio.
Ymddygiad sy'n bygwth neu'n brawychu
Defnyddio ofn, pwysau neu fygythiadau i reoli'r hyn mae rhywun yn ei wneud, fel gweiddi, difrodi eiddo neu eu bygwth nhw neu'r bobl o'u cwmpas.
Cam-drin corfforol
Unrhyw fath o niwed corfforol, gan gynnwys taro, gwthio, dal yn ôl neu daflu gwrthrychau.
Cam-drin rhywiol
Unrhyw weithgarwch rhywiol heb ganiatâd, gan gynnwys dylanwadu, gorfodi neu roi pwysau ar rywun i wneud pethau rhywiol nad ydyn nhw eisiau eu gwneud.
Cam-drin ar sail ‘anrhydedd’
Cam-drin sy'n cael ei sbarduno gan y gred bod rhywun wedi dwyn gwarth neu gywilydd ar y teulu neu’r gymuned. Mae hyn yn cynnwys priodas dan orfod, lle nad yw un neu ddau berson yn cydsynio'n rhydd neu nad ydynt yn gallu gwneud hynny (gan gynnwys unrhyw un dan 18 oed) ac anffurfio organau cenhedlu benywod, lle mae'r organau rhywiol yn cael eu torri, eu hanafu neu eu newid yn fwriadol heb unrhyw reswm meddygol.
Effaith cam-drin domestig
Holwch y menywod a'r merched rydych chi'n eu hadnabod ydyn nhw erioed wedi teimlo’n ofnus neu dan fygythiad mewn perthynas, neu wedi teimlo bod rhywun yn eu rheoli neu’n cael dylanwad gormodol arnynt. Ar sail y dystiolaeth, bydd o leiaf chwarter yn dweud eu bod wedi teimlo felly.
Mae cam-drin domestig yn fwy cyffredin o lawer nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei sylweddoli. Boed hynny'n rheolaeth emosiynol, yn drais corfforol neu'n ofn cyson o'r hyn a allai ddigwydd nesaf, mae ei effeithiau'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r cartref. Mae'n effeithio ar ddioddefwyr a goroeswyr, eu teuluoedd a'r gymdeithas gyfan.
-
Gall cam-drin domestig ddigwydd unwaith yn unig neu dros amser, gan effeithio ar bob rhan o fywyd unigolyn, o'i iechyd a'i hyder i'w ddiogelwch a'i annibyniaeth.
Dyma rai o'r ffyrdd y gall gael effaith negyddol:
- Gall achosi anafiadau corfforol, yn ogystal â phroblemau iechyd hirdymor, gan gynnwys effeithiau difrifol a pharhaol tagu.
- Gall achosi niwed seicolegol, gan gynnwys pryder, iselder, ôl-fflachiadau, straen wedi trawma ac, mewn rhai achosion, hunanladdiad.
- Gall byw gydag ofn neu reolaeth ei gwneud yn anodd canolbwyntio yn y gwaith, dal i fyny ag astudiaethau neu gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu.
- Mae'n gallu cymryd y teimlad o ddiogelwch a rhyddid oddi ar berson, gan olygu nad yw'n gallu ymlacio gartref, cerdded ar hyd y stryd yn y nos neu hyd yn oed adael y tŷ heb boeni beth allai ddigwydd.
- Efallai y bydd yn rhaid i rai pobl adael eu cartref er eu diogelwch eu hunain neu ailadeiladu eu bywydau.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin, does dim rhaid i chi wynebu hynny ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael pryd bynnag y byddwch chi’n barod.
Cael cymorth -
Mae canlyniadau go iawn i ymddygiad camdriniol. Efallai na fydd rhai pobl sy'n ymddwyn yn gamdriniol yn sylweddoli mai cam-drin yw'r hyn maen nhw'n ei wneud. Efallai na fyddant yn gweld effaith eu gweithredoedd nac yn sylweddoli pa mor ddifrifol neu niweidiol ydyn nhw. Gall y gweithredoedd hynny arwain at y canlynol:
- Colli ymddiriedaeth a pharch partneriaid, teulu a ffrindiau.
- Gorfod gadael eich cartref neu gael eich stopio rhag gweld eich plant.
- Wynebu cyhuddiadau troseddol a allai arwain at gosbau fel dirwyon a/neu garchar. Hefyd, gellir gwneud gorchmynion llys yn eich erbyn fel gorchmynion diogelu rhag cam-drin domestig neu orchmynion atal.
- Niwed hirdymor i'ch gwaith, eich enw da a'ch cyfleoedd yn y dyfodol.
Os ydych chi'n poeni am eich ymddygiad, dydy hi ddim yn rhy hwyr i newid. Mae cymorth ar gael i'ch helpu i ddeall eich gweithredoedd a dysgu sut i stopio.
Sut mae newid eich ymddygiad
Angen cymorth?
Os ydych chi'n dioddef cam-drin domestig, neu wedi bod drwyddo o'r blaen, does dim rhaid i chi ei wynebu ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael – gall siarad â rhywun wneud gwahaniaeth mawr.
Fe allwch chi helpu i roi stop ar gam-drin
Pan nad yw cam-drin yn cael ei herio, mae’n gallu gwaethygu. Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae i atal trais yn erbyn menywod a merched. Dewch i gael gwybod sut gallwch chi helpu i’w stopio.
Croesi’r llinell?
Rydyn ni i gyd yn meddwl ein bod ni'n gwybod pan mae rhywbeth wedi mynd yn rhy bell. Ond dydy hi ddim bob amser yn hawdd gwybod ble mae’r llinell. Gall rhai mathau o ymddygiad ymddangos yn ddiniwed nes i chi edrych yn agosach.
Ewch i weld beth mae croesi’r llinell yn ei olygu, a sut mae newid hynny.