Skip to main content
Image of a woman wearing a beanie hat

Beth yw cam-drin?

Mae gwybod beth yw cam-drin yn ein helpu ni i gyd i'w adnabod pan fydd yn digwydd.

Gall fod yn emosiynol, corfforol, rhywiol neu ariannol.

Gall gael ei gyflawni gan bartner, cyn-bartner, aelod o'r teulu, cydweithiwr, ffrind neu ddieithryn.

Gall fod yn eiriau neu'n weithredoedd. Ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gartref, yn y gwaith neu ar y stryd - unrhyw le mewn gwirionedd.

Mae ef I GYD yn niweidiol

Isod fe welwch rai enghreifftiau o ymddygiad camdriniol. Weithiau mae pobl yn profi un neu fwy o'r rhain ary un pryd.

Gall cam-drin ddigwydd i unrhyw un, ond rydym yn gwybod bod yr ymddygiadau hyn yn effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched.

Ond gyda'n gilydd gallwn newid hynny.

Cam-drin mewn man cyhoeddus

Gall hyn gynnwys:

  • Gwneud sylwadau neu ystumiau rhywiol eglur yn gyhoeddus – boed ar y stryd, mewn bar, ar gludiant cyhoeddus neu mewn man cyhoeddus arall
  • Cilwenu neu syllu digroeso
  • Eistedd yn anghyfforddus o agos ar gludiant cyhoeddus
  • Cwestiynau diangen am fywyd rhywiol rhywun
  • Sylw rhywiol digroeso neu ofyn am ryw
  • Uwchsgertio (tynnu lluniau neu ffilmio i fyny sgert rhywun heb yn wybod iddynt)
  • Fflachio
  • Dilyn rhywun
  • Stelcian (patrwm o ymddygiad obsesiynol a all gynnwys anfon anrhegion digroeso, cyfathrebu'n ddiangen, difrodi eiddo, ymosodiad corfforol neu rywiol)
  • Byseddu (cyffwrdd rhywiol digroeso unrhyw le ar y corff, a allai fod yn ymosodiad rhywiol)

Cam-drin yn y gwaith neu mewn lleoliad addysg

Gall hyn gynnwys:

  • Sylwadau amhriodol (gan gynnwys rhai o natur rywiol), ystumiau neu gyffwrdd
  • Pwysau cyson i fynd allan ar oed
  • Gofyn am weithgarwch rhywiol yn gyfnewid am ddyrchafiad
  • Stelcian

Cam-drin rhywiol

Gall hyn gynnwys:

  • Cyffwrdd digroeso
  • Ymosodiad rhywiol (cyffwrdd mewn ffordd rywiol heb ganiatâd)
  • Cael rhywun i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol heb eu caniatâd penodol
  • ‘Twyllo llechwraidd’ (tynnu condom yn ystod rhyw heb i’r person arall wybod)
  • Tagu, slapio neu boeri ar rywun yn ystod rhyw heb eu caniatâd
  • Ymosodiad trwy dreiddio (treiddio i'r fagina neu'r anws gan ddefnyddio unrhyw beth heblaw pidyn heb ganiatâd)
  • ‘Rhyw am rent’ (rhoi llety i rywun yn gyfnewid am weithgarwch rhywiol)
  • Camfanteisio’n rhywiol
  • Paratoi rhywun i bwrpas rhyw
  • Treisio

Cam-drin ar-lein

Gall hyn gynnwys:

  • Gwneud sylwadau rhywiol digroeso ar gyfryngau cymdeithasol
  • Anfon negeseuon rhywiol digroeso at rywun
  • Seiber-fflachio (anfon llun eglur at rywun nad yw wedi gofyn amdano)
  • Rhoi pwysau ar rywun i anfon lluniau noethlymun ohonynt eu hunain
  • Seiber-stelcian (defnyddio'r rhyngrwyd a thechnolegau eraill i aflonyddu neu stelcian person arall ar-lein)
  • Cam-drin ar sail delwedd, a elwir hefyd yn “porn dial” (postio delweddau neu fideos rhywiol eglur o berson ar y rhyngrwyd heb eu caniatâd, fel arfer gan gyn-bartner rhywiol)

Cam-drin domestig

Gall hyn gynnwys:

  • Cam-drin emosiynol neu seicolegol (e.e. bychanu rhywun, chwarae gemau meddwl, gwneud iddynt deimlo mai nhw sydd ar fai am bopeth neu eu bod yn wallgof - a elwir hefyd yn ddibwyllo)
  • Ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi (e.e. monitro ffôn rhywun, rheoli eu harian, dweud wrthynt pwy y gallant eu gweld, dweud wrthynt beth y gallant ei wisgo, olrhain eu symudiadau)
  • Stelcian (gall hyn ddigwydd gyda chyn-bartner mynwesol, e.e. monitro ffôn rhywun, olrhain eu symudiadau)
  • Cam-drin economaidd (e.e. dyled dan orfodaeth, rheoli gwariant/cyfrifon banc/buddsoddiadau/morgeisi/taliadau budd-daliadau)
  • Ymddygiad treisgar neu fygythiol (e.e. tagu heb fod yn angheuol)
  • Cam-drin corfforol
  • Cam-drin rhywiol (gweler uchod)
  • Cam-drin ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir (pethau niweidiol sy’n cael eu gwneud yn enw ‘anrhydedd’ teulu neu gymuned)
  • Priodas dan orfod

Gall plant a phobl ifanc o dan 16 oed hefyd fod yn ddioddefwyr cam-drin domestig os ydynt yn gweld, yn clywed neu'n profi ei effeithiau ac yn perthyn i neu o dan gyfrifoldeb rhiant y dioddefwr neu'r troseddwr.

Nid oes angen i gam-drin domestig fod rhwng partneriaid sy’n byw gyda’i gilydd o reidrwydd, gallai fod rhwng plentyn a rhiant neu bobl sy’n byw ar wahân.

Mathau ychwanegol o gam-drin

Gall y rhain gynnwys:

  • Anffurfio organau cenhedlu benywod
  • Caethwasiaeth fodern
  • Stelcian

Beth ydych chi'n ei wybod am gam-drin menywod a merched?

Faint o fenywod a merched sydd wedi cael eu cam-drin? A yw'r rhan fwyaf o ymosodiadau rhywiol yn cael eu cyflawni gan ddieithriaid? Beth yw ymddygiad sy'n rheoli neu'n gorfodi?

Po fwyaf y byddwn ni’n deall y broblem, y gorau fydd ein siawns o atal trais yn erbyn menywod a merched.

Testimonial

Cafodd fy merch yn ei harddegau ei haflonyddu’n rhywiol ar y stryd. Mae hi’n dal i gael ôl-fflachiau ac mae arni ofn cerdded adref ar ei phen ei hun.*

*Mae datganiadau yn ddienw er mwyn diogelu hunaniaeth, ond mae pob un wedi’i seilio ar brofiadau go iawn