
Beth i'w wneud pan fyddwch chi'n gweld neu'n clywed cam-drin
Mae llawer ohonom wedi gweld rhyw fath o ymddygiad difrïol a niweidiol yn erbyn menywod a merched. Ond faint ohonom sydd wedi gwybod sut i ymyrryd?
Mor aml gallwn ni edrych yn ôl ar sefyllfa a wnaeth i ni deimlo’n anghyfforddus a dymuno ein bod wedi gwneud rhywbeth.
Gallwn ni atal cam-drin trwy beidio â gadael i bobl ddianc ag ymddygiad niweidiol – waeth pa mor ‘ddibwys’ y gall ymddangos. Po fwyaf y byddant yn dianc ag ef, y mwyaf normal y daw. Mae cam-drin yn erbyn menywod a merched yn parhau. Mae merched a merched yn parhau i gael eu niweidio.
Felly beth allwn ni ei wneud?
Sut i ymyrryd yn ddiogel
Does dim rhaid i ymyrraeth fod yn ddramatig na chreu gwrthdaro. Gall hyd yn oed gamau bach i gydnabod a chefnogi helpu i atal cam-drin. Dyma bedair ffordd syml i'ch helpu i gamu i’r adwy yn ddiogel – meddyliwch am STOP.

Sôn wrth rywun
Gallech sôn wrth rywun sy'n gyfrifol, fel staff y bar os ydych chi mewn tafarn neu glwb, yr adran Adnoddau Dynol (AD) os ydych chi yn y gwaith, neu yrrwr y trên neu'r bws os ydych chi ar gludiant cyhoeddus. Gallech hefyd sôn wrth aelod arall o'r cyhoedd neu rywun sy’n pasio a gofyn a ydyn nhw'n fodlon helpu: gall cydweithio fod yn ffordd fwy diogel ac effeithiol o ymyrryd. Mae'n bwysig holi’r dioddefwr wrth bwy yr hoffen nhw ddweud, neu a ydyn nhw am ffonio'r heddlu.

Tynnu sylw
Weithiau, y peth gorau i’w wneud yn y foment yw tynnu sylw, a rhoi cyfle i'r sawl sy'n cael eu targedu i symud i ffwrdd neu roi cyfle i bobl eraill gael help. Gallech daro sgwrs gyda'r dioddefwr, e.e. gofyn y cyfeiriad i rywle, neu ble mae'r stop nesaf ar y bws, neu esgus eich bod chi'n eu nabod nhw. Os ydych chi yn y gwaith, gallech wneud esgus i siarad â nhw am ryw dasg arall. Gallech hefyd roi cynnig ar ollwng rhywbeth gerllaw neu greu rhyw fân gynnwrf arall.

Osgoi bod yn ddistaw
Gallwch ddangos nad ydych chi’n cymeradwyo beth sy'n digwydd, er enghraifft drwy beidio â chwerthin a dweud, 'Dwi ddim yn meddwl bod hynny'n ddigri’. Neu gallech chi fod yn fwy uniongyrchol, os ydych chi'n teimlo ei bod hi'n ddiogel, drwy ddweud bod y peth yn annerbyniol a dweud wrthyn nhw am stopio.

Peidio cerdded heibio
Gallwch ofyn i'r dioddefwr a ydyn nhw'n iawn. Gallech ffilmio’r hyn sy'n digwydd ar eich ffôn a gofyn a hoffen nhw gael y lluniau er mwyn riportio’r digwyddiad, a gallech gynnig helpu i'w riportio. Gallech chi hefyd helpu pobl eraill sy’n rhoi cymorth yn barod. Os yw'n rhywun rydych chi'n ei nabod, cysylltwch â nhw pan fyddan nhw ar eu pen eu hunain i gynnig eu helpu neu eu cefnogi i riportio’r peth os ydyn nhw eisiau. Os ydych chi’n credu y gallen nhw fod mewn perthynas gamdriniol, mae yna gyngor arbenigol am yr hyn y gallwch ei wneud a'r cymorth sydd ar gael i’w cael ar-lein neu ar y Llinell Gymorth Genedlaethol Camdriniaeth Ddomestig.
Profwch eich hun: sut allech chi helpu?
Edrychwch ar y senarios isod i weld sut allech chi roi'r ffyrdd yma o ymyrryd yn ddiogel ar waith.

Ymddygiad sy’n rheoli drwy orfodaeth
Mae’ch ffrind wedi mynd â’i phen yn ei phlu ers iddi gwrdd â'i phartner newydd, ac rydych chi'n meddwl ei fod e’n ei rheoli hi.

Gweiddi’n frwnt
Ar y bws adref, rydych chi’n gweld dyn yn gweiddi’n frwnt ar fenyw ifanc. Mae e'n gwneud sylwadau rhywiol ac yn symud yn agos iawn ati.

Pornograffi dial
Mae eich ffrind yn uwchlwytho lluniau noeth o'i gyn-gariad i'r cyfryngau cymdeithasol i’w brifo ac i godi cywilydd arni'n fwriadol.

Cyffwrdd digroeso
Rydych chi’n gweld dyn yn byseddu menyw mewn bar. Mae hi'n ceisio symud i ffwrdd ac mae’n amlwg ei bod yn anghyffyrddus.
Riportio camdriniaeth
Mae anwybyddu gweithredoedd o gam-drin yn gallu gwneud i'r bobl sy'n eu cyflawni feddwl bod eu hymddygiad yn dderbyniol. Gallwch helpu drwy riportio camdriniaeth pan fyddwch yn dyst iddi.
Canllawiau ac adnoddau i athrawon a staff ysgol
Mae athrawon a staff ysgol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu plant a'u haddysgu am berthnasoedd iach. Dysgwch fwy am yr hyn y gallwch chi ei wneud os ydych yn poeni am blentyn a allai fod wedi profi camdriniaeth neu sy'n dangos ymddygiad sy'n peri pryder.