Skip to main content

Mae canlyniadau i bob math o gam-drin. I bawb.

Gofynnwch i’r menywod a’r merched rydych chi’n eu hadnabod a ydyn nhw erioed wedi teimlo dan fygythiad, wedi’u haflonyddu, wedi’u rheoli neu wedi’u gorfodi, a mae’n debygol mai ‘ydw’ fydd yr ateb.

P’un a ydych yn profi cilwenu ar gludiant cyhoeddus, wedi’ch byseddu mewn bar neu yr anfonir lluniau noeth digroeso ar-lein, mae profiad menywod a merched o gam-drin yn rhy gyffredin o lawer. Ac mae ganddo ganlyniadau i bawb – menywod, dynion, teuluoedd, cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol.

  • Boed yn ddigwyddiad untro neu’n brofiad hirfaith, gall cam-drin niweidio iechyd corfforol a meddyliol pobl. Gall effaith cam-drin amrywio rhwng pobl a gall rhai fod yn fwy agored i gam-drin nag eraill. I rai, gall cam-drin achosi canlyniadau hirdymor i'w bywydau. Dyma rai enghreifftiau yn unig.

    • Boed yn ddigwyddiad unigol neu’n brofiad hirfaith, gall cam-drin niweidio iechyd corfforol a meddyliol pobl. Gall effaith cam-drin amrywio rhwng pobl a gall rhai fod yn fwy agored i gam-drin nag eraill. I rai, gall cam-drin gael canlyniadau hirdymor i'w bywydau. Dyma rai enghreifftiau yn unig.
    • Gall cam-drin leihau rhyddid menywod a merched i gyfranogi’n gyfartal mewn cymdeithas, er enghraifft methu â cherdded ar hyd y stryd gyda’r nos heb orfod poeni am gael eu haflonyddu, neu eu hatal rhag cymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol a niweidio eu haddysg.
    • Gall menywod sy'n profi cam-drin domestig golli eu cartref os oes rhaid iddynt adael er eu diogelwch eu hunain.

    Os ydych chi wedi dioddef cam-drin, mae cymorth i’ch helpu.

    Cymorth i chi
  • Mae diogelwch, lles a ffyniant menywod a merched yn fusnes i bawb.

    Pan yw cam-drin menywod a merched yn mynd heb ei atal, mae'n dod yn normal. Os yw’r bobl sy’n cyflawni’r ymddygiad hwn yn meddwl ei fod yn normal neu hyd yn oed yn dderbyniol, gall y cam-drin waethygu. Gallai menywod fynd ymlaen i ddioddef trais a thrawma hyd yn oed yn fwy difrifol.

    Dyna pam mae angen herio gweithredoedd y mae rhai pobl yn eu hystyried yn ‘ddibwys’ neu’n ‘hwyl diniwed’. Drwy sefyll yn erbyn pob math o gam-drin, a thrwy ddwyn cyflawnwyr yn atebol, gallwn greu cymdeithas lle mae menywod a merched yn gyfartal, yn cael eu parchu ac yn ddiogel.

    Dysgwch sut y gall hyd yn oed gweithredoedd bach o gymorth wneud gwahaniaeth mawr.

    Sut i ymyrryd yn ddiogel
  • Mae'n rhaid i bobl sy'n cam-drin gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd.

    Efallai bod ganddynt faterion cymhleth y mae angen mynd i’r afael â nhw ac mae gwasanaethau cymorth a all helpu pobl i newid eu hymddygiad.

    Mae canlyniadau cyfreithiol hefyd. Mae llawer o ymddygiadau camdriniol yn dramgwydd troseddol, a all arwain at ddirwy, dedfryd o garchar a/neu gael eu gwneud yn amodol ar ofynion hysbysu (cael eu rhoi ar y gofrestr ‘troseddwyr rhyw’). Gall hyn arwain at ganlyniadau hirdymor iddynt hwy, eu teuluoedd a'u bywoliaeth.

    Poeni am eich ymddygiad? Nid yw'n rhy hwyr i newid.

    Newid er gwell

Testimonial

Dw i wedi cael fy aflonyddu gymaint o weithiau, dw i nawr yn gwneud pethau fel rhoi fy ngwallt i fyny rhyw ffordd arbennig, dal fy allweddi rhwng fy mysedd, cerdded pellter penodol oddi wrth ddynion, dim ond i wneud i mi deimlo'n ddiogel.*

*Mae datganiadau yn ddienw i ddiogelu hunaniaeth, ond mae pob un yn seiliedig ar brofiadau go iawn