Skip to main content

Newid er gwell

Gall fod yn anodd cyfaddef i ymddygiad camdriniol. Ond trwy dderbyn bod yr ymddygiad hwn yn anghywir, rydych chi'n cymryd cyfrifoldeb ac yn dewis newid. Mae hyn yn ei dro yn gwneud ein cymdeithas gyfan yn well, nid dim ond i fenywod a merched.

Sut y gallwch chi newid

Rhowch eich hun yn eu lle nhw

  • Derbyniwch nad yw menywod a merched yn gwerthfawrogi gweithredoedd nad ydych efallai’n eu gweld fel rhai anghywir, e.e. gwneud sylwadau rhywiol eglur tuag atynt yn y stryd. Ar y gorau, mae’n achosi embaras, ac ar y gwaethaf, gall fod yn ygythiol neu’n frawychus.
  • Rhowch le i fenywod a merched ar y stryd, neu ar drên neu fws. Mae menywod yn aml yn wyliadwrus yn gyson mewn mannau cyhoeddus, felly gall hyn eu helpu i deimlo'n fwy diogel.
  • Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod gennych hawl i gael rhyw – nid oes. Mae cael rhyw heb ganiatâd yn ymosodiad rhywiol neu'n dreisio. Dim ond gydag ‘ie’ clir a brwdfrydig y gellir rhoi caniatâd. Mae unrhyw beth arall – gan gynnwys tawelwch – yn ‘na’ y mae’n rhaid ei barchu.
  • Peidiwch â meddwl mai porn yw'r ffordd y dylai rhyw fod. Yn union fel nad yw ffilmiau yn fywyd go iawn, nid rhyw go iawn yw porn. Mae'n aml yn dangos ymddygiad niweidiol tuag at fenywod, heb gydsyniad na chyfathrebu.

Edrychwch ar y bobl o'ch cwmpas

Ydy dy ffrindiau neu dy deulu yn ddylanwad drwg? Peidiwch â chael eich tynnu i mewn i ymddygiad camdriniol, dim ond i fod yn ‘un o’r bechgyn.

Gall deimlo’n anodd mynd yn erbyn y dyrfa, ond dyna’r peth iawn i’w wneud. Mewn llawer o sefyllfaoedd nid chi fydd yr unig un sy’n meddwl bod rhywbeth o’i le – ond mae’n cymryd un person i gymryd yr awenau a siarad. Byddwch y person hwnnw.

Oes gennych chi blant?

Magwch nhw i barchu dynion a merched a'u gweld yn gyfartal mewn cymdeithas.

Fel rhiant, rydych chi'n fodel rôl. Eich ymddygiad a'ch agweddau chi sy'n llywio pwy maen nhw. Os oes gennych chi blant, dysgwch nhw i barchu ei gilydd, sefyll i fyny yn erbyn ymddygiad niweidiol, datgan ffiniau personol ac egluro pwysigrwydd caniatâd. Gallwch chi wneud eich rhan i'w helpu i dyfu i fyny mewn byd gwell.

Cael cymorth proffesiynol

Os ydych chi’n gwneud i rywun annwyl deimlo’n ofnus neu dan reolaeth, mae gwasanaethau i’ch helpu chi, yn gyfrinachol a heb farn.

Gall cymorth proffesiynol fod yn werthfawr iawn i’ch helpu i nodi beth sydd y tu ôl i’r ymddygiad a sut y gallwch wneud newid er gwell.

Llinell gymorth gyfrinachol, e-bost a gwasanaeth gwe-sgwrs ar gyfer pobl sy'n ymddwyn yn gamdriniol yn eu perthnasoedd yw Llinell Ffôn Respect. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi dynion a menywod sy’n defnyddio cam-drin mewn perthnasoedd o’r un rhyw neu heterorywiol, o unrhyw le yn y DU.

Llinell Ffôn Respect: Rhadffôn 0808 802 4040

E-bost [email protected].

Gair am derminoleg

Drwy’r wefan hon rydym yn sôn am gam-drin menywod a merched, oherwydd rydym yn gwybod bod yr ymddygiadau hyn yn effeithio’n anghymesur arnynt, ond mae’r cymorth a gynigir yma ar gael i bob unigolyn sy’n dioddef unrhyw un o’r niweidiau hyn.

Testimonial

Roeddwn i’n teimlo bod gen i rywle i fynd a doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun. Roedd gen i rywun nad oedd yn barnu ond a ddywedodd wrthyf yn uniongyrchol nad oedd yr hyn yr oeddwn wedi'i wneud yn iawn a gwnaeth i mi ei wynebu. Roeddwn i’n gwerthfawrogi cael lle diogel i ddweud wrth rywun beth oedd yn digwydd.*

*Mae datganiadau yn ddienw i ddiogelu hunaniaeth, ond mae pob un yn seiliedig ar brofiadau go iawn