Poeni am eich ymddygiad?
Ydych chi erioed wedi...
Efallai eich bod chi’n meddwl na fyddech chi byth yn croesi’r llinell, ond gall rhai pethau bob dydd – sylw bach, ychydig o bryfocio neu dynnu coes, teimlo'n genfigennus – fynd yn rhy bell heb i chi sylweddoli.
Tarwch olwg. Efallai y cewch eich synnu gan yr hyn sy'n cyfrif fel croesi'r llinell.
Ydych chi erioed wedi...
- Gwneud sylwadau neu jôcs rhywiol am fenyw i'ch ffrindiau?
- Gwneud sylwadau awgrymog i fenyw pan nad oedd hi eisiau hynny?
- Wedi edrych ble’r oedd rhywun drwy ei ffôn neu drwy ap?
- Wedi gwneud sylwadau am sut mae menyw yn edrych yn y gwaith?
- Rhannu post, meme neu fideo sy'n bychanu menywod?
Pan oeddech chi’n gweld rhywun, wnaethoch chi erioed un o’r pethau hyn...
- Colli eich tymer gyda hi?
- Anfon neges ati dro ar ôl tro, heb ddim ymateb?
- Rhannu llun personol iawn ohoni gyda'ch ffrindiau?
- Defnyddio dicter neu genfigen neu wneud iddi deimlo’n euog er mwyn cael eich ffordd eich hun?
- Ceisio ei pherswadio i gael rhyw ar ôl iddi ddweud na?
Byddwch yn onest. Ydych chi erioed wedi meddwl...
- “Oeddwn i’n rhy awyddus i bethau ddatblygu ac yn rhoi gormod o bwysau?”
- “Oeddwn i’n ei rheoli’n ormodol?”
- “Os wnes i weiddi, ydy hynny'n cyfrif fel cam-drin?”
- “Dywedodd fy mod i'n codi ofn arni – ydy hynny’n gam-drin?”
- “Dim ond unwaith wnaeth o ddigwydd – ydy hynny’n golygu fy mod i’n gamdriniol?”