Bob dydd, mae menywod a merched ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn cael eu cam-drin. Ond mae'n gallu bod yn anodd sylwi ar gam-drin. Mae’n aml yn cuddio y tu ôl i rywbeth arall. Rheolaeth yn esgus bod yn ofal. Dylanwad yn cael ei gamgymryd am gariad. Ymddygiad sinistr yn cael ei anwybyddu. Mae’n amser sylwi mai cam-drin yw hyn, a’i stopio.
Gadewch i ni i gyd fod yn rhan o'r newid
Gall cam-drin ddigwydd yn unrhyw le
Gall cam-drin ddigwydd yn unrhyw le – a dydy hi ddim yn hawdd ei adnabod bob amser. Mae'n digwydd mewn cartrefi, mewn lleoliadau addysg, ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar-lein, yn y gwaith, ar nosweithiau allan ac mewn perthnasau. Yn cuddio. Yn cael ei ddiystyru. Yn cael ei fethu’n llwyr. Ond mae’n amhosibl anwybyddu'r ffigurau:
2.2 miliwn
o fenywod 16 oed a hŷn wedi profi cam-drin domestig yn 2025
1 o bob 5
menyw wedi dioddef stelcian
Dros 200,000
o droseddau rhywiol wedi’u cofnodi gan yr heddlu yn 2024/25
Allwch chi adnabod beth sy’n croesi'r llinell?
Rydyn ni i gyd yn meddwl ein bod ni'n gwybod pan mae rhywbeth wedi mynd yn rhy bell. Ond dydy hi ddim bob amser yn hawdd gwybod ble mae’r llinell. Gall rhai mathau o ymddygiad ymddangos yn ddiniwed nes i chi edrych yn agosach.
Rhowch gynnig ar y cwis i weld pa mor dda gallwch chi adnabod beth sy'n croesi'r llinell.
Rhoi cynnig ar y cwis
Beth yw cam-drin?
Dydy hi ddim bob amser yn hawdd adnabod cam-drin. Mae rhai pobl yn meddwl mai rhywbeth corfforol yn unig yw cam-drin, ond mae hefyd yn gallu golygu stelcio rhywun ar-lein, rhannu llun personol o'ch partner â'ch ffrindiau, neu reoli beth mae eich partner yn ei wisgo neu bwy mae hi’n ei weld.
Os gwnawn ni i gyd sylwi ar gam-drin, gallwn helpu i’w stopio.
Angen cymorth?
Os ydych chi’n cael eich cam-drin, neu wedi cael eich cam-drin, does dim rhaid i chi ei wynebu ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael – gall siarad â rhywun wneud gwahaniaeth mawr.
Croesi’r llinell?
Dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim yn bwriadu croesi’r llinell. Ond weithiau mae’n anodd dweud pryd mae rhywun wedi’i chroesi. Neges, jôc, sylw – maen nhw'n gallu teimlo’n ddiniwed ar y pryd ond maen nhw'n dal yn rhy bell.
Ewch i weld beth mae croesi’r llinell yn ei olygu, a sut mae newid hynny.
Riportio camdriniaeth
Os ydy cam-drin wedi effeithio arnoch chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, mae ffyrdd o riportio hyn. Rhagor o wybodaeth am sut i riportio camdriniaeth.
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.