Skip to main content

Sut y gallwch ei riportio

Os ydych chi wedi profi neu weld cam-drin, mae gennych bob hawl i’w riportio. Mae gwahanol bobl y gallwch riportio iddyn nhw, yn dibynnu ar ble a phryd mae'r cam-drin wedi digwydd.

Os nad ydych chi’n teimlo’n barod, ddim am wneud adroddiad, neu’n teimlo eich bod am siarad â rhywun a chael cyngor am yr hyn rydych chi wedi’i brofi, gallwch chi gael cymorth gan amrywiaeth o sefydliadau arbenigol o hyd.

Cynnwys yr heddlu

Gallwch riportio ymddygiad camdriniol i'r heddlu drwy ffonio 101 neu wneud adroddiad ar-lein.

Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion eich heddlu lleol os ydych am ei riportio iddynt yn bersonol.

Os credwch eich bod chi neu unrhyw un arall mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.

Beth sy'n digwydd pan wnewch adroddiad i’r heddlu

Ar ôl i chi wneud adroddiad i’r heddlu, bydd yr heddlu yn trefnu i rywun siarad â chi mewn ffordd ddiogel a phreifat. Eu blaenoriaeth gyntaf fydd gwirio eich bod yn iawn a chanfod a oes angen unrhyw gymorth meddygol brys arnoch. Os ydych chi’n gyfforddus yn siarad am yr hyn a ddigwyddodd, fel arfer bydd gan y swyddog bedwar prif gwestiwn i chi. Byddant yn deall efallai na fyddwch chi’n gallu ateb pob un o’r rhain.

  • Pwy wnaeth hyn?
  • Beth ddigwyddodd?
  • Ble digwyddodd ef?
  • Pryd ddigwyddodd ef?

Ffyrdd eraill o adrodd am gamdriniaeth

Crimestoppers

Os ydych am riportio tramgwydd troseddol yn ddienw, cysylltwch â Crimestoppers. Byddant yn trosglwyddo’ch gwybodaeth i’r awdurdod perthnasol sy’n gyfrifol am ymchwilio i droseddau a dwyn pobl o flaen eu gwell.

Mewn man cyhoeddus

Os ydych ar gludiant cyhoeddus, gallwch ddweud wrth y gyrrwr neu’r gwarchodwr. Gallwch hefyd riportio ymddygiad camdriniol ar drên i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig trwy neges destun. Llinell destun Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: 61016

Os ydych yn rhywle fel bar neu glwb, gallwch ei riportio i rywun ar ddyletswydd, boed yn staff bar, swyddogion diogelwch neu reolwr.

Os ydych chi’n profi cam-drin domestig, efallai y byddwch hefyd yn gallu ceisio cymorth yn eich fferyllfa leol trwy ofyn i aelod o staff am ‘Ani’. Gallwch chi wybod a ydyn nhw'n cymryd rhan yn y cynllun codair os oes ganddyn nhw'r poster 'Gofyn am Ani' yn y ffenestr. Byddant yn cynnig lle preifat i chi, yn darparu ffôn a gofyn a ydych angen cymorth gan yr heddlu neu wasanaethau cymorth cam-drin domestig arall. Ewch i Cam-drin domestig: sut i gael help – GOV.UK (www.gov.uk).

Yn y gweithle neu mewn lleoliad addysg

Os yw rhywun wedi eich cam-drin yn y gwaith, boed yn bersonol neu ar-lein, gallwch ei riportio i rywun fel eich rheolwr llinell, cydweithiwr neu'r adran Adnoddau Dynol. Os ydych chi yn yr ysgol neu mewn lleoliad addysg siaradwch â'ch athro neu aelod o staff.

Camdriniaeth ar-lein

Os ydych wedi’ch amlygu i gynnwys anaddas ar-lein, cysylltwch â darparwr y gwasanaeth neu defnyddiwch y botwm adrodd ar y cyfryngau cymdeithasol.