Riportio Camdriniaeth
Camdriniaeth mewn man cyhoeddus
- Os ydych chi ar drafnidiaeth gyhoeddus, gallwch ddweud wrth y gyrrwr neu swyddog arall. Os ydych chi'n teithio ar drên, gallwch hefyd roi gwybod i'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig drwy anfon neges destun i 61016 neu roi gwybod am y peth ar ap Railway Guardian neu roi gwybod ar-lein.
- Os ydych chi mewn bar neu glwb, er enghraifft, gallwch roi gwybod i rywun sydd ar ddyletswydd, fel staff y bar, staff diogelwch neu reolwr.
Cam-drin yn y gwaith neu yn yr ysgol
- Os ydych chi'n cael eich cam-drin yn y gwaith neu'n gweld hynny'n digwydd, rhowch wybod i'ch adran Adnoddau Dynol neu siaradwch â'ch rheolwr llinell.
- Os yw'n digwydd yn yr ysgol neu mewn lleoliad addysg arall, gallwch roi gwybod i athro neu aelod o staff.
Cam-drin ar-lein
- Os byddwch chi'n gweld cynnwys amhriodol ar-lein neu os bydd rhywun yn rhannu delweddau personol ohonoch chi ar-lein heb eich caniatâd, gallwch gysylltu â darparwr y gwasanaeth neu ddefnyddio'r botwm riportio ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol.
Cam-drin Domestig
- Os ydych chi'n dioddef cam-drin domestig neu os ydych chi'n poeni am rywun a allai fod yn dioddef hynny, gallwch gael cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim 24 awr y dydd.
Trais a cham-drin rhywiol
- Os ydych chi wedi dioddef trais neu gam-drin rhywiol neu os ydych chi'n poeni am rywun a allai fod yn dioddef hynny, gallwch gael cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim 24 awr y dydd.
- Gallwch hefyd gysylltu â'r Llinell Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol, sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth cyfrinachol.
Rhoi gwybod am stelcio
- Os ydych chi wedi cael eich stelcio neu os ydych chi'n poeni am rywun a allai fod yn dioddef hynny, gallwch gael cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim 24 awr y dydd.
- Gallwch hefyd gysylltu â'r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Stelcio i gael cyngor a chefnogaeth gyfrinachol.
Rhoi gwybod am gam-drin yn ddienw
- Os ydych am roi gwybod am gam-drin heb roi eich enw, gallwch gysylltu â Crimestoppers. Byddant yn rhoi’r manylion i'r heddlu heb ddatgelu pwy ydych chi.
Roi gwybod am gam-drin – cwestiynau cyffredin
Mae'n normal cael cwestiynau neu bryderon am roi gwybod am gam-drin, yn enwedig os nad ydych chi erioed wedi gwneud hynny o'r blaen. Dyma rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae pobl yn eu gofyn.
-
Gallwch. Gallwch roi gwybod i'ch heddlu lleol ar-lein. Gallwch hefyd gysylltu â gwasanaethau fel Report Harmful Content neu’r Revenge Porn Helpline, lle gallwch roi gwybod am bethau fel aflonyddu ar-lein neu gam-drin gan ddefnyddio delweddau personol iawn.
-
Gallwch. Os ydych chi'n poeni bod rhywun rydych chi'n ei adnabod yn cael ei gam-drin, gallwch roi gwybod i'r heddlu neu siarad â sefydliad cymorth yn gyntaf i gael cyngor ar sut i helpu mewn ffordd ddiogel.
-
Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, mae'n iawn siarad â rhywun amdano. Neu os nad ydych chi'n siŵr a yw'n gam-drin, mae'r dudalen Beth yw camdriniaeth? yn cynnwys enghreifftiau a allai eich helpu i adnabod gwahanol fathau o ymddygiad.
-
Mae'r heddlu a gwasanaethau eraill wedi'u hyfforddi i wrando a chymryd eich pryderon o ddifrif, hyd yn oed os nad oes gennych chi negeseuon, lluniau na thystion. Os oes gennych chi dystiolaeth, cadwch hi'n ddiogel – ond peidiwch â gadael i'r hyn rydych chi'n meddwl sy'n ddiffyg prawf eich atal rhag cael help.
-
Mae'n gwbl ddealladwy teimlo felly, ond mae gennych chi hawl i gael eich cymryd o ddifrif. Mae'r heddlu a'r sefydliadau cymorth wedi cael eu hyfforddi i wrando ac i'ch helpu i gael y cymorth iawn.