Skip to main content

Ffyrdd eraill o riportio camdriniaeth

Ffyrdd eraill o riportio camdriniaeth

Nid pawb fydd yn teimlo'n ddigon cyfforddus i ffonio'r heddlu’n syth, ac mae hynny'n iawn. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael ei gam-drin, mae ffyrdd eraill o siarad am y peth a chael cymorth, yn dibynnu ar beth sydd wedi digwydd ac ym mhle. Gall yr opsiynau hyn helpu i'ch cefnogi, yn ogystal â chofnodi beth sy'n digwydd a phenderfynu beth i'w wneud nesaf.

Os ydych chi mewn perygl dybryd, ffoniwch 999. Os nad yw’n ddiogel i chi siarad, gallwch bwyso 55 a byddwch yn cael eich trosglwyddo i rywun sydd wedi'i hyfforddi i ddelio â ‘galwadau tawel’. 

  • Os ydych chi'n dioddef cam-drin domestig, mae gwasanaethau a all eich helpu i gadw'n ddiogel, i ddeall eich opsiynau ac i’ch helpu i roi gwybod os a phryd y byddwch chi'n barod.

    Mae’r rhain yn cynnwys:

    • Y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Cam-drin Domestig: Cyngor a chymorth cyfrinachol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ffoniwch 0808 2000 247 am ddim neu defnyddiwch y gwasanaeth sgwrsio byw ar wefan Refuge.
      • Gwasanaethau cam-drin domestig lleol: Mae gan lawer o ardaloedd weithwyr cymorth arbenigol a all eich helpu i benderfynu ar eich opsiynau a'ch arwain drwy'r broses riportio. Gallwch chwilio ar-lein am wasanaethau yn eich ardal chi, neu ddefnyddio cyfeiriadur Cymorth i Fenywodi ddod o hyd i gymorth diogel a chyfrinachol yn eich ardal chi.
      • Gwasanaethau iechyd: Gall meddygon teulu, adrannau damweiniau ac achosion brys a staff iechyd eraill helpu i gofnodi anafiadau a gwneud yn siŵr eich bod yn cael y cymorth cywir.
      • Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC): Mae canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) yn cynnig cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol i unrhyw un sydd wedi cael ei dreisio neu ei gam-drin neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Mae gan bob SARC feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ofalu amdanoch chi.

    Ni fydd y gwasanaethau hyn yn rhoi pwysau arnoch i roi gwybod i'r heddlu – byddant yn eich helpu i bwyso a mesur beth allai fod yn iawn i chi.

    I gael rhagor o gyngor ar riportio cam-drin domestig, gallwch ddarllen canllawiau Llywodraeth y DU, sy'n cynnwys gwybodaeth am gael cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim

  • Os bydd rhywun yn eich dilyn, yn cysylltu â chi neu'n eich monitro dro ar ôl tro, mae sefydliadau arbenigol a all eich helpu i ddeall beth sy'n digwydd a sut i roi gwybod am y peth yn ddiogel.

    • Y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Stelcio: Cyngor ar adnabod stelcio, cadw cofnodion a riportio. Ffoniwch am ddim ar 0808 802 0300 (Llun a Mercher: 09:30–20:00; Mawrth, Iau a Gwener: 09:30–16:00) neu defnyddiwch y ffurflen gyngor ar-lein.
      • Gwasanaeth Eirioli Cenedlaethol Paladin ar gyfer Stelcio: Eiriolaeth a chefnogaeth i bobl sy'n cael eu stelcio. Gallwch gyfeirio eich hun drwy eu gwefan neu ffonio 0203 866 4107.

    Gall y sefydliadau hyn eich helpu i gadw cofnod o ddigwyddiadau, a all fod yn ddefnyddiol iawn os byddwch yn dewis riportio’r peth yn nes ymlaen.

  • Os ydych chi wedi profi ymddygiad niweidiol ar-lein, mae ffyrdd o’i riportio heb fynd drwy'r heddlu yn gyntaf.

    • Report Harmful Content: Help gydag aflonyddu ar-lein, dynwared, bygythiadau neu negeseuon sarhaus.
      • Revenge Porn Helpline: Cymorth arbenigol gyda chamddefnyddio delweddau personol. Ffoniwch am ddim ar 0345 6000 459 i gael help gyda phethau fel dileu lluniau personol, diogelu cyfrifon a deall eich opsiynau.
      • Rhoi gwybod i’r platfform yn uniongyrchol: Mae gan y rhan fwyaf o safleoedd cyfryngau cymdeithasol eu hoffer adrodd eu hunain ar gyfer negeseuon, postiadau neu gyfrifon camdriniol.

    Gall y gwasanaethau hyn eich helpu i ddileu cynnwys niweidiol, cadw cofnodion yn ddiogel a phenderfynu a ydych am fynd â phethau ymhellach. 

  • Os oes rhywbeth wedi digwydd ar y stryd, ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn rhywle penodol neu mewn man cyhoeddus arall, fel arfer bydd pobl o gwmpas i helpu:

    • Staff trafnidiaeth: Os ydych chi ar drafnidiaeth gyhoeddus, gallwch ddweud wrth y gyrrwr neu'r swyddog neu wrth staff yr orsaf. Os ydych chi ar drên, gallwch hefyd roi gwybod i'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig drwy anfon neges destun i 61016, defnyddio ap Railway Guardian neu roi gwybod ar-lein.  
      • Staff y lleoliad: Mewn mannau fel bariau, clybiau neu ddigwyddiadau, gallwch roi gwybod i staff sydd ar ddyletswydd, gan gynnwys staff sy'n gweithio wrth y bar, staff diogelwch neu reolwr.
      • Pobl sydd gerllaw: Os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus, gallwch ofyn i rywun gerllaw am help neu gymorth.
      • Awdurdodau lleol: Mae gan rai cynghorau dimau diogelwch cymunedol y gallwch roi gwybod iddynt am rywbeth sydd wedi digwydd.

    Gallwch riportio ar-lein o hyd neu ffonio 101 wedyn, hyd yn oed os yw'r digwyddiad wedi dod i ben. 

  • Os ydych chi wedi profi trais rhywiol, mae ffyrdd o gael help a rhoi gwybod amdano, p'un ai a ydych chi eisiau cynnwys yr heddlu ai peidio.

    Gwasanaethau cymorth arbenigol:

    • Rape Crisis Cymru a Lloegr: Cyngor a chymorth cyfrinachol a di-dâl. Ffoniwch 0808 500 2222 neu ewch i’r wefan i gael gwybodaeth am ganolfannau lleol.
    • Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC): Mae canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) yn cynnig cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol i unrhyw un sydd wedi cael ei dreisio neu ei gam-drin neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol. Mae gan bob SARC feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ofalu amdanoch chi.
    • Gwasanaethau'r GIG: Gallwch fynd at eich meddyg teulu neu'ch ysbyty lleol i gael cyngor a gofal meddygol. Gallant hefyd eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol a all eich helpu i gael gafael ar ofal meddygol a dewis beth yw’r camau nesaf a beth sy'n teimlo'n iawn i chi.