Rhoi cymorth
Os yw rhywbeth y mae rhywun wedi'i ddatgelu wedi codi teimladau neu atgofion anodd i chi
Gall clywed rhywun yn datgelu gwybodaeth godi atgofion neu deimladau anodd ynoch chi eich hun. Os bydd hyn yn digwydd, nid oes rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun – ewch i'n hadran gymorth i gael arweiniad a gwybodaeth am ble gallwch droi am gymorth.
Ydych chi'n gwybod y ffeithiau am gam-drin?
Nid yw cam-drin bob amser yn edrych fel y mae pobl yn ei ddisgwyl. Weithiau, gall cam-syniadau am gam-drin rwystro pethau ac effeithio ar sut rydyn ni’n ymateb pan fydd rhywun yn agor eu calon. Gall gwybod y ffeithiau eich helpu i ddeall beth y gallent fod yn ei brofi, a theimlo'n fwy hyderus yn y ffordd rydych chi'n ymateb.