Skip to main content

Cael cymorth

Gall cam-drin ddigwydd i unrhyw un. Mae'n bwysig gwybod nad ydyw byth yn fai arnoch chi. A dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae cymorth am ddim, cyfrinachol ac annibynnol ar gael, beth bynnag yw eich sefyllfa. 

Gall ceisio ymdopi â phethau ar eich pen eich hun fod yn anodd, ond gall siarad â rhywun fod yn gam cyntaf tuag at deimlo'n fwy diogel ac yn derbyn mwy o gefnogaeth. Mae cymorth ar gael pan fyddwch chi'n barod. 

Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999. Os nad yw'n ddiogel i siarad, gallwch wasgu 55 a chewch eich trosglwyddo i weithredwr galwadau heddlu sydd wedi'i hyfforddi i ymdrin â 'galwadau tawel'. 

Dewiswch y cymorth sy'n iawn i chi. Cliciwch ar y pynciau isod i archwilio sefydliadau cymorth sy'n arbenigo mewn gwahanol feysydd ac sy'n gallu cynnig cymorth ac arweiniad. Mae rhai sefydliadau ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, os oes angen cymorth arnoch ar unrhyw adeg.

Sefydliadau cymorth arbenigol

Os ydych chi wedi profi cam-drin, waeth pryd y digwyddodd, mae sefydliadau cymorth arbenigol yno i'ch helpu. Gallant gynnig amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys trafod pethau, egluro eich opsiynau a'ch helpu i gael mynediad at wasanaethau eraill os dymunwch. Gallant wrando, cynnig arweiniad a'ch helpu i ddod o hyd i'r cymorth sy'n iawn i chi. 

Efallai y gallwch hefyd gael mynediad at gymorth arbenigol, fel gan Gynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA), Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA) neu Eiriolwr Annibynnol ar Aflonyddu (ISA). Gallant eich helpu i ddeall eich opsiynau, gan gynnwys rhoi gwybod i'r awdurdodau, a'ch cefnogi ar eich cyflymder eich hun – p'un ai ydych yn penderfynu mynd at yr heddlu ai peidio.

Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCau)

Mae canolfannau atgyfeirio ar gyfer ymosodiadau rhywiol (SARCau) yn cynnig cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, i unrhyw un sydd wedi dioddef trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol. Mae'r canolfannau hyn wedi'u lleoli ledled y wlad ac ar gael i bawb, waeth pryd y digwyddodd y digwyddiad. Gallwch gael cymorth gan SARC p’un ai a ydych yn rhoi gwybod i'r heddlu ai peidio.

Cam-drin plant yn rhywiol

Os ydych chi'n poeni am gam-drin rhywiol ar blant sy'n digwydd ar hyn o bryd neu a ddigwyddodd yn ddiweddar, gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chymorth ar wefan y National Association for People Abused in Childhood (NAPAC).

Os cawsoch eich cam-drin pan oeddech yn blentyn, nid yw byth yn rhy hwyr i gael cymorth. Ewch i wefan NAPAC.

Adrodd am gam-drin

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n eu hadnabod, wedi cael eich effeithio gan gam-drin, mae ffyrdd o adrodd amdano. Dysgwch fwy am sut i adrodd am gam-drin.

Eich hawliau fel dioddefwr trosedd

Pwy bynnag ydych chi a beth bynnag yw'r drosedd, mae gennych hawliau o dan y Cod Dioddefwyr. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i gael gwybod am y broses cyfiawnder troseddol os byddwch yn rhoi gwybod am y drosedd, a gwybod bod cymorth ar gael hyd yn oed os na wnewch chi hynny.