Dinoethi anweddus a seiberfflachio
Ble mae dinoethi anweddus yn gallu digwydd
Un drosedd yw dinoethi anweddus, ond gall ddigwydd mewn gwahanol leoliadau.
Dinoethi anweddus mewn mannau cyhoeddus
Dangos organau rhywiol yn fwriadol mewn mannau cyhoeddus, er enghraifft mewn parciau, ar strydoedd, ar lwybrau neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dinoethi anweddus mewn lleoliadau preifat
Dinoethi heb ganiatâd yn ystod bywyd arferol bob dydd, er enghraifft, agor y drws yn noeth i yrrwr danfon nwyddau, ymwelydd neu rywun sy'n dod i’r tŷ i weithio.
Dinoethi anweddus o gerbydau
Datgelu organau rhywiol o gar neu fan, gan dargedu pobl sy'n cerdded ar eu pennau eu hunain neu'n pasio heibio.
Ble mae seiberfflachio yn gallu digwydd
Mae seiberfflachio yn drosedd ar-lein ar wahân. Mae'n golygu dangos cynnwys rhywiol i rywun heb ganiatâd, drwy dechnoleg neu blatfformau digidol. Gall ddigwydd:
Ar alwadau fideo neu ffrydiau byw
Dangos eu hunain ar alwadau fideo, ffrydiau byw neu blatfformau sgwrsio, heb ganiatâd, gan gynnwys troi camera ymlaen yn annisgwyl, neu ymuno â galwad heb fod wedi gwisgo’n iawn.
Drwy luniau rhywiol digymell
Anfon lluniau neu fideos digroeso o organau rhywiol drwy negeseuon preifat, cyfryngau cymdeithasol, apiau cwrdd â chariad neu AirDrop.
Effaith dinoethi anweddus a seiberfflachio
Mae pobl yn dinoethi'n anweddus ac yn seiberfflachio yn amlach nag y mae llawer o bobl yn ei sylweddoli. P’un ai a yw'n un digwyddiad ar ei ben ei hun, yn digwydd yn yr un lleoliad dro ar ôl tro, neu’n dderbyn delweddau rhywiol na ofynnwyd amdanynt, mae effaith dinoethi anweddus yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r foment y mae'n digwydd.
-
P’un ai a yw'n digwydd unwaith yn unig neu dro ar ôl tro, gall dinoethi anweddus a seiberfflachio gael effaith barhaol ar les rhywun. Dyma rai o'r ffyrdd y gall achosi niwed:
- Gall arwain at boen meddwl, ofn, pryder, panig, gorwyliadwriaeth, hunllefau neu feddyliau ymwthiol.
- Gall pobl deimlo dan fygythiad a’u bod yn cael eu bychanu, eu gwrthrycholi neu eu targedu.
- Efallai y byddant yn osgoi llefydd, llwybrau neu sefyllfaoedd penodol, fel cerdded ar eu pen eu hunain, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu fynd allan ar ôl iddi nosi.
- Gall danseilio ymdeimlad rhywun o ddiogelwch mewn mannau fel parciau, safleoedd bws, gweithleoedd neu ar-lein.
- Gall pobl newid arferion neu gymryd camau ychwanegol i amddiffyn eu hunain, fel gofyn am lifft, neu beidio gwneud ymarfer corff yn eu hoff lefydd.
Os ydych chi wedi cael profiad o ddinoethi anweddus neu seiberfflachio, does dim rhaid i chi ei wynebu ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael pryd bynnag y byddwch chi’n barod.
Cael cymorth - Gall arwain at boen meddwl, ofn, pryder, panig, gorwyliadwriaeth, hunllefau neu feddyliau ymwthiol.
-
Mae canlyniadau difrifol i ddinoethi anweddus a seiberfflachio.
Dydy llawer o bobl sy'n gwneud hynny ddim yn sylweddoli bod eu hymddygiad yn gamdriniol ar y dechrau. Efallai y byddan nhw'n gwneud jôc o’r peth neu'n gwneud esgusodion, ond mae'r niwed yn un go iawn, a gall y canlyniadau gynnwys:
- Wynebu cyhuddiadau troseddol dan gyfreithiau dinoethi anweddus neu anwedduster cyhoeddus, a all arwain at gosbau, fel dirwyon, carcharu a dod yn droseddwr rhyw cofrestredig.
- Gellir gwneud gorchmynion llys yn eich erbyn hefyd fel Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.
- Colli ymddiriedaeth a pharch partneriaid, ffrindiau, teulu neu gydweithwyr.
- Cael eich gwahardd o ardaloedd, gweithleoedd neu amgylcheddau penodol.
- Effaith hirdymor ar gyflogaeth, tai a chyfleoedd yn y dyfodol.
Os ydych chi'n poeni am eich ymddygiad, dydy hi ddim yn rhy hwyr i newid. Mae cymorth ar gael i'ch helpu i ddeall eich gweithredoedd a dysgu sut i stopio.
Sut mae newid eich ymddygiad - Wynebu cyhuddiadau troseddol dan gyfreithiau dinoethi anweddus neu anwedduster cyhoeddus, a all arwain at gosbau, fel dirwyon, carcharu a dod yn droseddwr rhyw cofrestredig.
Angen cymorth?
Os ydych chi’n cael eich cam-drin, neu wedi cael eich cam-drin, does dim rhaid i chi ei wynebu ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael – gall siarad â rhywun wneud gwahaniaeth mawr.
Fe allwch chi helpu i roi stop ar gam-drin
Pan nad yw cam-drin yn cael ei herio, mae’n gallu gwaethygu. Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae i atal trais yn erbyn menywod a merched. Dewch i gael gwybod sut gallwch chi helpu i’w stopio.
Croesi’r llinell?
Rydyn ni i gyd yn meddwl ein bod ni'n gwybod pan mae rhywbeth wedi mynd yn rhy bell. Ond dydy hi ddim bob amser yn hawdd gwybod ble mae’r llinell. Gall rhai mathau o ymddygiad ymddangos yn ddiniwed nes i chi edrych yn agosach.
Ewch i weld beth mae croesi’r llinell yn ei olygu, a sut mae newid hynny.