Skip to main content
The side of a man's face and arm are visible in the foreground. Behind him is a woman who's talking to someone off camera.

Mae llawer o resymau nad yw pobl yn codi llais nac yn ceisio cymorth pan fyddant yn profi cam-drin. Ofn. Cywilydd. Dryswch. Yn poeni na fyddant yn cael eu credu na'u cymryd o ddifrif. Bod yn ansicr pa gymorth sydd ar gael a sut y gallai hyn eu helpu. Eisiau anghofio iddo ddigwydd erioed.

Y drafferth yw, mae ceisio ymdopi â phethau ar eich hunan yn gallu bod yn anodd iawn. Felly meddyliwch wrth bwy allech chi ddweud. Boed yn ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n weithiwr proffesiynol, gallant eich helpu drwyddo.

Pam y gall siarad helpu

Gall dweud wrth rywun am eich profiad eich helpu i ddelio â’r cam-drin a chael cymorth ychwanegol os bydd ei angen arnoch. Gall hynny fod yn gymorth emosiynol, cymorth ymarferol, cyngor iechyd a/neu gymorth cyfreithiol.

Does dim pwysau arnoch chi i wneud hyn, a dim person cywir nac anghywir i ddweud wrthynt. Efallai y byddwch chi'n dechrau gyda ffrindiau neu deulu neu rywun yn eich cymuned rydych chi'n ymddiried ynddo.

Pan fyddwch yn barod, a dim ond os dymunwch, efallai y byddwch yn dewis siarad â sefydliad cymorth arbenigol.

If you’re worried about someone you know

Check in with them when they are alone and offer to help them to report it if they want.

If you think they might be in an abusive relationship, the National Domestic Abuse Helpline can provide expert advice on what you can do and explain the support available.

Sefydliadau cymorth arbenigol

Mae sefydliadau cymorth arbenigol yn bodoli i helpu'r rhai sydd wedi profi cam-drin. Gallant wrando, eich arwain a'ch cefnogi gyda beth bynnag sydd ei angen arnoch ac mae llawer ohonynt yn gyfrinachol.

Os nad ydych yn siŵr â phwy i siarad, defnyddiwch yr hidlydd hwn i ddod o hyd i'r cymorth cywir i chi.

Filters:

Showing 15 results below

Argyfwng Trais Rhywiol

Llinell gymorth Byw Heb Ofn (Cymru)

Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh: Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol

Refuge - Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Genedlaethol a sgwrsio byw (Lloegr)

Karma Nirvana: llinell gymorth cam-drin ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod

Partneriaeth Goroeswyr Gwryw

Llinell Gymorth i Ddynion - Llinell Gymorth Cam-drin Domestig i Ddynion

Llinell Gymorth Cam-drin Domestig a Rhywiol (Gogledd Iwerddon)

Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs)

Mae canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARCs) yn cynnig cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol 24/7 i unrhyw un sydd wedi cael ei dreisio, wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu wedi cael ei gam-drin. Mae SARCs wedi’u lleoli ledled y wlad ac maent yma i bawb, ni waeth pryd y digwyddodd digwyddiad. Gallwch ddod o hyd i'ch canolfan leol yma: www.nhs.uk/SARCs

Camdriniaeth yn y gorffennol

Os ydych wedi dioddef cam-drin yn eich gorffennol neu pan oeddech yn blentyn, nid yw byth yn rhy hwyr i gael cymorth. Ewch i Gymorth cam-drin rhywiol – Cymorth i ddioddefwyr-goroeswyr cam-drin rhywiol

Cam-drin plant yn rhywiol

Os ydych yn pryderu am gam-drin plant yn rhywiol, gallwch gael gwybodaeth a chymorth yma. Gadewch i ni atal cam-drin gyda'n gilydd.

Am ei riportio?

Efallai y byddwch hefyd yn dewis riportio’r hyn a ddigwyddodd i chi mewn ffordd fwy ffurfiol, boed yn y gwaith, prifysgol neu ysgol, neu drwy fynd at yr heddlu.

Cofiwch, mewn argyfwng ffoniwch 999.

Os nad yw’n ddiogel i siarad, gallwch wedyn wasgu 55 a byddwch yn cael eich trosglwyddo i driniwr galwadau heddlu sydd wedi’i hyfforddi i ddelio â ‘galwadau distaw’.

 

Testimonial

Rwyf wedi dod i delerau â’r hyn a ddigwyddodd nawr, ond a dweud y gwir nid wyf yn credu y byddwn i wedi gwneud hynny heb gymorth arbenigol.*

*Mae datganiadau yn ddienw i ddiogelu hunaniaeth, ond mae pob un yn seiliedig ar brofiadau go iawn

Subscribe to