Stelcio
Mathau o Stelcio
Cyswllt heb ganiatâd
Galwadau ffôn, negeseuon testun neu negeseuon digroeso dro ar ôl tro. Gall hyn gynnwys anfon negeseuon neu ddefnyddio technoleg, fel deallusrwydd artiffisial, i awtomeiddio negeseuon, anfon negeseuon e-bost o gyfrifon gwahanol neu anfon llythyrau neu roddion annisgwyl. Gall hefyd gynnwys creu proffiliau ffug ar y cyfryngau cymdeithasol i ddilyn neu aflonyddu ar rywun, gwneud sylwadau dro ar ôl tro ar bostiadau, cofrestru pobl ar gyfer gwasanaethau heb eu caniatâd i'w dychryn ac i aflonyddu arnynt, hacio i mewn i gyfrifon personol neu bostio sïon neu fygythiadau.
Dilyn rhywun neu ymddangos yn rhywle
Ymddangos yn rhywle heb wahoddiad – cartref neu weithle rhywun, neu lefydd maen nhw'n arfer mynd, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n dod atoch chi neu'n rhoi gwybod i chi eu bod nhw yno. Gall hefyd gynnwys dilyn rhywun yn gyhoeddus neu aros gerllaw. Gall gynnwys defnyddio technoleg, fel chwiliad delwedd neu ddeallusrwydd artiffisial, i gael gwybod i ble mae rhywun yn mynd.
Rhannu gwybodaeth breifat
Postio neu rannu manylion personol rhywun neu fygwth rhannu lluniau neu ddelweddau personol heb eu caniatâd. Gellir defnyddio hyn i fygwth, codi cywilydd neu ddychryn unigolion, neu i’w twyllo i ymateb i gyswllt.
Ymddygiad bygythiol neu annifyr
Gallai hyn gynnwys anfon negeseuon bygythiol, gwneud bygythiadau, difrodi eiddo neu ddefnyddio pobl eraill i rannu negeseuon digroeso. Gallai hefyd gyfeirio at ymgyfreitha blinderus neu wrth-honiadau annifyr yn erbyn rhywun.
Monitro a gwylio rhywun
Casglu gwybodaeth neu gadw golwg ar rywun. Gall hyn gynnwys edrych ar eu cyfryngau cymdeithasol, tynnu lluniau neu fideos, gyrru heibio eu cartref dro ar ôl tro neu ofyn i bobl eraill am ddiweddariadau amdanynt. Mae hefyd yn cynnwys camddefnyddio dyfeisiau clyfar a chysylltiedig i fonitro pobl. Gall hyn fod ar sawl ffurf, gyda thechnolegau'n cynnwys systemau cartref clyfar fel clychau drws fideo neu systemau diogelwch cartref, a dyfeisiau bob dydd fel tracwyr ffitrwydd a ffonau clyfar i gadw golwg ar leoliad rhywun. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys cuddio dyfeisiau recordio neu ddyfeisiau tracio heb i rywun wybod.
Effaith stelcio
Holwch y menywod a'r merched rydych chi'n eu hadnabod ydyn nhw erioed wedi teimlo bod rhywun yn eu gwylio, yn eu dilyn neu'n rhoi pwysau arnynt, neu ydyn nhw wedi cael eu hysgwyd gan ymddygiad rhywun. Mae’n ddigon posib y bydd mwy nag y byddech wedi'i ddisgwyl yn dweud eu bod nhw wedi teimlo fel hyn.
Mae stelcio yn fwy cyffredin o lawer nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei sylweddoli. Negeseuon di-baid, cael eich dilyn neu’r ofn cyson o beth allai ddigwydd nesaf – mae ei effaith yn mynd yn bell y tu hwnt i’r adegau pan fydd yn digwydd. Mae'n effeithio ar ddioddefwyr, eu teuluoedd ac ar gymdeithas.
-
P’un ai a yw'n digwydd unwaith yn unig neu dros amser, gall stelcio effeithio ar bob rhan o fywyd unigolyn – ei iechyd, ei hyder, ei ddiogelwch a'i annibyniaeth. Dyma rai o'r ffyrdd y gall gael effaith negyddol:
- Gall achosi pryder, panig, gorwyliadwriaeth, problemau cysgu, hunllefau a meddyliau ymwthiol, yn ogystal ag ymdeimlad cyson o gael eich gwylio neu deimlo nad ydych chi’n ddiogel.
- Gall y straen o gael eich dilyn, cysylltu â chi neu eich monitro ei gwneud yn anodd canolbwyntio ar waith neu astudiaethau neu wneud pethau arferol o ddydd i ddydd.
- Gall pobl newid sut maen nhw'n teithio, ble maen nhw'n mynd, neu beth maen nhw'n ei wneud, gan osgoi rhai llwybrau, siopau neu fannau cyhoeddus oherwydd nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel mwyach.
- Mae'n gallu gwneud i bobl deimlo eu bod yn colli eu rhyddid, gan wneud iddynt deimlo'n rhy ofnus i ateb y drws neu edrych ar ffôn, bod ar eu pen eu hunain gartref neu adael y tŷ.
- Gall wneud i bobl encilio o fannau digidol a'r byd ar-lein.
- Yn yr achosion mwyaf difrifol, gall stelcio arwain at drais corfforol neu farwolaeth hyd yn oed.
Os ydych chi wedi cael profiad o stelcio, does dim rhaid i chi ei wynebu ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael pryd bynnag y byddwch chi’n barod.
Cael cymorth - Gall achosi pryder, panig, gorwyliadwriaeth, problemau cysgu, hunllefau a meddyliau ymwthiol, yn ogystal ag ymdeimlad cyson o gael eich gwylio neu deimlo nad ydych chi’n ddiogel.
-
Mae canlyniadau difrifol i stelcio. Dydy rhai pobl ddim yn gweld eu hymddygiad fel stelcio i ddechrau. Efallai eu bod yn meddwl eu bod nhw'n ‘cadw llygad’ neu'n ‘cadw golwg’ heb sylweddoli pa mor niweidiol yw eu hymddygiad. Gall y camau hyn arwain at y canlynol:
- Colli ymddiriedaeth a pharch partneriaid, ffrindiau, teulu neu gydweithwyr.
- Wynebu cyhuddiadau troseddol o dan gyfreithiau stelcio, aflonyddu neu drefn gyhoeddus, a allai arwain at gosbau fel dirwyon a/neu garchar. Hefyd, gellir gwneud gorchmynion llys yn eich erbyn, fel gorchmynion diogelu rhag stelcio neu orchmynion atal.
- Niwed hirdymor i'ch gwaith, eich enw da a chyfleoedd yn y dyfodol.
Os ydych chi'n poeni am eich ymddygiad, dydy hi ddim yn rhy hwyr i newid. Mae cymorth ar gael i'ch helpu i ddeall eich gweithredoedd a dysgu sut i roi'r gorau iddi.
Sut mae newid eich ymddygiad - Colli ymddiriedaeth a pharch partneriaid, ffrindiau, teulu neu gydweithwyr.
If you’re being stalked or need advice and support, you can contact the National Stalking Helpline, run by the Suzy Lamplugh Trust, on 0808 802 0300 (please see its website for opening times) or via their online form. If you are in immediate danger or need urgent medical help, call 999.
Need support?
If you’re dealing with stalking, or worried it’s happening to you or someone else, you don’t have to handle it on your own. Talking to someone who understands stalking can help you feel less alone and clearer about what to do next.
You can help stop abuse
When abuse goes unchallenged, it can escalate. We all have a role to play in stopping violence against women and girls. Find out how you can help stop it.
Is it crossing the line?
We all think we know when something’s gone too far. But spotting the line isn’t always that easy. Some behaviours can seem harmless until you look closer.
See what crossing the line looks like, and how to change it.